Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus / Public Accounts Committee

PAC(5)-13-17 P4

 

WG_positive_40mm

 

               

 

DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Adroddiad am Gylchffordd Cymru gan Swyddfa Archwilio Cymru

DYDDIAD

27 Ebrill 2017

 GAN

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

 

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Gyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru.

 

https://www.wao.gov.uk/cy/system/files/publications/circuit-of-wales-cym-2017.pdf

 

Mae'r adroddiad hwn yn feirniadol o rai agweddau ar y ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru reoli'r cyllid cychwynnol. Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod rhai o'r pwyntiau a wnaed yn yr adroddiad, nid ydym yn derbyn yr holl ganfyddiadau sydd ynddo.

 

Rydym wedi cael ein synnu a'n siomi gan benderfyniad Archwilydd Cyffredinol Cymru i gyhoeddi'r adroddiad hwn yn ystod cyfnod cyn etholiadau. Mae'n ymddangos bod brys i gyhoeddi'r adroddiad ac mae hynny wedi golygu nad yw Swyddfa’r Archwilydd wedi caniatáu'r cyfnod arferol sy'n rhoi digon o amser inni ystyried ac ymateb i'r drafft terfynol cyn iddo gael ei gyhoeddi.

 

Mae gennym nifer o bryderon allweddol am gynnwys yr adroddiad ac am y casgliadau sydd ynddo, ac nid aed i'r afael â'r pryderon hynny cyn iddo gael ei gyhoeddi. Er enghraifft, mae'r adroddiad yn cyfeirio droeon at ein cytundeb i ddarparu gwerth £16 miliwn o Gyllid Busnes Ad-daladwy i Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd (CDBC), ond nid yw'n cydnabod ein bod wedyn wedi tynnu'r cynnig hwnnw yn ôl ar gyfer y cynllun arfaethedig hwn ‒ er ein bod wedi tynnu'r mater at sylw Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn cwestiynu risg a'r mesurau a sefydlwyd gennym i ddiogelu rhag risg. Fel Llywodraeth, rydym, fel mater o drefn, yn cael ceisiadau i ysgwyddo lefelau uwch o risg er mwyn cefnogi cwmnïau a phrosiectau na'r lefelau sy'n dderbyniol i’r sector preifat. Mae Cylchffordd Cymru yn brosiect cymhleth a chydnabuwyd erioed fod y fenter yn un sydd â risg arbennig o uchel yn gysylltiedig â hi.

 

Rydym yn fodlon ein bod wedi asesu risg yn ôl gwerth am arian i'r trethdalwr a'n bod wedi ceisio sicrhau bod y datblygwr wedi rhoi'r sicrwydd uchaf posibl. Mae maint y llog a'r ffioedd a godwyd gan Lywodraeth Cymru yn yr achos hwn yn adlewyrchu'r risg uchel.

 

Dylid nodi bod y cymorth ariannol cychwynnol wedi'i roi i CDBC i'w helpu i ddatblygu'r cynnig busnes ar gyfer Cylchffordd Cymru, i fwrw ymlaen â'r broses o gael caniatâd cynllunio ac i sicrhau cyllid preifat.

 

Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi tynnu sylw at bedwar maes allweddol lle y mae'n barnu bod diffygion yn y ffordd y cafodd y prosiect ei brosesu gan Lywodraeth Cymru. Mae hynny wedi arwain at bum argymhelliad, a hoffwn sicrhau'r Aelodau y bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried yn fanwl ac y bydd ymateb llawn yn cael ei gyhoeddi yn y man.

 

Rwyf wedi dweud yn glir wrth fy swyddogion ei bod yn bwysig ein bod, fel Llywodraeth, yn dysgu o brofiadau'r gorffennol a'n bod yn mynd ati bob amser i geisio gwella'r ffordd yr ydym yn rheoli prosiectau ac arian cyhoeddus. 

 

Yn wir, rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i'n prosesau cymorth busnes eisoes ac mae'r newidiadau hynny'n cymryd rhai o argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru i ystyriaeth, gan gynnwys y broses o gymeradwyo Grantiau Datblygu Eiddo, a diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â chwmnïau cysylltiedig.  

 

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu'r Aelodau ynghylch y newyddion diweddaraf. Byddwn yn barod iawn i wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull os mai dyna yw dymuniad yr Aelodau.